Skip to content

Releases: techiaith/trawsgrifiwr-windows

v1.0.6

21 Apr 10:08
Compare
Choose a tag to compare

Trawsgrifiwr (v1.0.6)

Mae’r Trawsgrifiwr yn rhaglen Windows yn unig sydd yn trawsgrifio lleferydd Cymraeg i destun. Dydi’r Trawsgrifiwr ddim eto yn adnabod eich geiriau yn iawn bob amser. Mewn arbrofion syml mae’r fersiwn cychwynnol hwn yn camddeall tua 11% o eiriau mewn brawddeg.

Llwytho i lawr y gosodwr

I'w defnyddio cliciwch ar y botwm 'Record', siaradwch frawddeg yn glir am rhwng 5 i 10 eiliad ac yna gliciwch ar y botwm 'Stop'. Bydd y Trawsgrifiwr yn gweithio ar y sain gyda chylch glas yn troi cyn i'r testun o'r hyn a ddywedwyd ymddangos o fewn y blwch testun. Os oes angen, cywirwch y testun a/neu cliciwch ar y botwm 'Copïo' er mwyn gludo'r testun mewn i unrhyw feddalwedd arall ar eich peiriant Windows (e.e. Microsoft Word, LibreOffice neu flwch testun o fewn tudalen we)

Ar y funud mae'n broses araf, yn cymryd tua 3 neu 4 gwaith hirach na'r amser i lefaru'r frawddeg wreiddiol - byddwch yn amyneddgar!
Cefndir

Gwnaed y Trawsgrifiwr Cymraeg yn bosibl diolch i brojectau a chydweithrediad rhwng Mozilla, gwirfoddolwyr, ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ariannwyd rhan Prifysgol Bangor yn y fenter, gan gynnwys datblygu'r Trawsgrifiwr a'r Ap Macsen gan Lywodraeth Cymru.

Prif sail y Trawsgrifiwr yw DeepSpeech gan Mozilla. Mae DeepSpeech yn beiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a'i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Ewch i https://github.com/mozilla/deepspeech i ddysgu mwy am DeepSpeech.

I hyfforddi DeepSpeech ac i greu systemau adnabod lleferydd, mae angen nifer sylweddol iawn o recordiadau o leisiau gwahanol bobl. Rydym wedi gwneud hynny yn bennaf drwy gyfrwng Common Voice, sef llwyfan Mozilla i gasglu lleisiau pobl yn darllen yn uchel frawddegau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhoslyn Prys (meddal.com) a ymgymerodd â nifer o ymgyrchoedd torfoli ar sail wirfoddol, i'r Mentrau Iaith, Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a weithiodd gyda Rhoslyn ar rai o'r ymgyrchoedd hyn, hefyd i Lywodraeth Cymru am eu hymgyrch gyhoeddusrwydd hwy, ac i liaws o gyfranogwyr ar draws Cymru a thu hwnt - dros 1,180 ohonoch erbyn hyn! - sydd wedi cyfrannu eich lleisiau i'r Common Voice Cymraeg. Gallwch gyfrannu eich llais i gynorthwyo i adeiladu cronfa ddata o leisiau fydd pawb yn gallu'i defnyddio i greu rhagor o apiau arloesol ar gyfer dyfeisiau, y we a'r Gymraeg. Os hoffech chi gyfrannu eich llais, ewch i wefan Common Voice i ddechrau arni. https://voice.mozilla.org/cy

Cywirdeb

Yn ôl ein harbrofion syml, mae'r trawsgrifiwr yn llwyddo gyda WER (word error rate) o 11%. O gymharu, mae systemau tebyg ar gyfer Saesneg â WER llai na 10%. Mae’n fwy na thebyg y bydd canlyniadau’n waeth ac yn amrywio rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Felly mae’r ap yn cynnwys awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio’n fwy llwyddiannus. Ond mae’r profiad o ddefnyddio’r rhaglen gyda brawddegau ar hap, a chael rhan helaeth o’r geiriau yn gywir yn arwyddocaol iawn. Yn ein barn ni mae’r ansawdd yn garreg filltir yn natblygiad adnabod lleferydd Cymraeg.

Cynnydd ar fersiynau blaenorol

  • mae'r Trawsgrifiwr yn defnyddio peiriant ar-lein os nad oes modd i'ch cyfrifiadur rhedeg y gydran adnabod lleferydd DeepSpeech yn lleol. Mae rhybudd wrth gychwyn y rhaglen i hysbysu'r defnyddiwr.
  • yn defnyddio DeepSpeech 0.9.3
  • modelau wedi eu hyfforddi gyda data Common Voice Rhagfyr 2020 (https://github.com/techiaith/docker-deepspeech-cy/releases/tag/21.03)

v1.0.5

27 Jan 23:29
Compare
Choose a tag to compare

Trawsgrifiwr (v1.0.5)

Mae’r Trawsgrifiwr yn rhaglen Windows yn unig sydd yn trawsgrifio lleferydd Cymraeg i destun. Dydi’r Trawsgrifiwr ddim eto yn adnabod eich geiriau yn iawn bob amser. Mewn arbrofion syml mae’r fersiwn cychwynnol hwn yn camddeall tua 11% o eiriau mewn brawddeg.

Llwytho i lawr y gosodwr

I'w defnyddio cliciwch ar y botwm 'Record', siaradwch frawddeg yn glir am rhwng 5 i 10 eiliad ac yna gliciwch ar y botwm 'Stop'. Bydd y Trawsgrifiwr yn gweithio ar y sain gyda chylch glas yn troi cyn i'r testun o'r hyn a ddywedwyd ymddangos o fewn y blwch testun. Os oes angen, cywirwch y testun a/neu cliciwch ar y botwm 'Copïo' er mwyn gludo'r testun mewn i unrhyw feddalwedd arall ar eich peiriant Windows (e.e. Microsoft Word, LibreOffice neu flwch testun o fewn tudalen we)

Ar y funud mae'n broses araf, yn cymryd tua 3 neu 4 gwaith hirach na'r amser i lefaru'r frawddeg wreiddiol - byddwch yn amyneddgar!

Cefndir

Gwnaed y Trawsgrifiwr Cymraeg yn bosibl diolch i brojectau a chydweithrediad rhwng Mozilla, gwirfoddolwyr, ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ariannwyd rhan Prifysgol Bangor yn y fenter, gan gynnwys datblygu'r Trawsgrifiwr a'r Ap Macsen gan Lywodraeth Cymru.

Prif sail y Trawsgrifiwr yw DeepSpeech gan Mozilla. Mae DeepSpeech yn beiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a'i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Ewch i https://github.com/mozilla/deepspeech i ddysgu mwy am DeepSpeech.

I hyfforddi DeepSpeech ac i greu systemau adnabod lleferydd, mae angen nifer sylweddol iawn o recordiadau o leisiau gwahanol bobl. Rydym wedi gwneud hynny yn bennaf drwy gyfrwng Common Voice, sef llwyfan Mozilla i gasglu lleisiau pobl yn darllen yn uchel frawddegau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhoslyn Prys (meddal.com) a ymgymerodd â nifer o ymgyrchoedd torfoli ar sail wirfoddol, i'r Mentrau Iaith, Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a weithiodd gyda Rhoslyn ar rai o'r ymgyrchoedd hyn, hefyd i Lywodraeth Cymru am eu hymgyrch gyhoeddusrwydd hwy, ac i liaws o gyfranogwyr ar draws Cymru a thu hwnt - dros 1,180 ohonoch erbyn hyn! - sydd wedi cyfrannu eich lleisiau i'r Common Voice Cymraeg. Gallwch gyfrannu eich llais i gynorthwyo i adeiladu cronfa ddata o leisiau fydd pawb yn gallu'i defnyddio i greu rhagor o apiau arloesol ar gyfer dyfeisiau, y we a'r Gymraeg. Os hoffech chi gyfrannu eich llais, ewch i wefan Common Voice i ddechrau arni. https://voice.mozilla.org/cy

Cywirdeb

Yn ôl ein harbrofion syml, mae'r trawsgrifiwr yn llwyddo gyda WER (word error rate) o 11%. O gymharu, mae systemau tebyg ar gyfer Saesneg â WER llai na 10%. Mae’n fwy na thebyg y bydd canlyniadau’n waeth ac yn amrywio rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Felly mae’r ap yn cynnwys awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio’n fwy llwyddiannus. Ond mae’r profiad o ddefnyddio’r rhaglen gyda brawddegau ar hap, a chael rhan helaeth o’r geiriau yn gywir yn arwyddocaol iawn. Yn ein barn ni mae’r ansawdd yn garreg filltir yn natblygiad adnabod lleferydd Cymraeg.

Cynnydd ar fersiynau blaenorol

v1.0.4

27 Jul 06:55
Compare
Choose a tag to compare

Trawsgrifiwr (v1.0.4)

Mae’r Trawsgrifiwr yn rhaglen Windows yn unig sydd yn trawsgrifio lleferydd Cymraeg i destun. Dydi’r Trawsgrifiwr ddim eto yn adnabod eich geiriau yn iawn bob amser. Mewn arbrofion syml mae’r fersiwn cychwynnol hwn yn camddeall tua 24% o eiriau mewn brawddeg.

Llwytho i lawr y gosodwr

I'w defnyddio cliciwch ar y botwm 'Record', siaradwch frawddeg yn glir am rhwng 5 i 10 eiliad ac yna gliciwch ar y botwm 'Stop'. Bydd y Trawsgrifiwr yn gweithio ar y sain gyda chylch glas yn troi cyn i'r testun o'r hyn a ddywedwyd ymddangos o fewn y blwch testun. Os oes angen, cywirwch y testun a/neu cliciwch ar y botwm 'Copïo' er mwyn gludo'r testun mewn i unrhyw feddalwedd arall ar eich peiriant Windows (e.e. Microsoft Word, LibreOffice neu flwch testun o fewn tudalen we)

Ar y funud mae'n broses araf, yn cymryd tua 3 neu 4 gwaith hirach na'r amser i lefaru'r frawddeg wreiddiol - byddwch yn amyneddgar!

Cefndir

Gwnaed y Trawsgrifiwr Cymraeg yn bosibl diolch i brojectau a chydweithrediad rhwng Mozilla, gwirfoddolwyr, ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ariannwyd rhan Prifysgol Bangor yn y fenter, gan gynnwys datblygu'r Trawsgrifiwr a'r Ap Macsen gan Lywodraeth Cymru.

Prif sail y Trawsgrifiwr yw DeepSpeech gan Mozilla. Mae DeepSpeech yn beiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a'i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Ewch i https://github.com/mozilla/deepspeech i ddysgu mwy am DeepSpeech.

I hyfforddi DeepSpeech ac i greu systemau adnabod lleferydd, mae angen nifer sylweddol iawn o recordiadau o leisiau gwahanol bobl. Rydym wedi gwneud hynny yn bennaf drwy gyfrwng Common Voice, sef llwyfan Mozilla i gasglu lleisiau pobl yn darllen yn uchel frawddegau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhoslyn Prys (meddal.com) a ymgymerodd â nifer o ymgyrchoedd torfoli ar sail wirfoddol, i'r Mentrau Iaith, Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a weithiodd gyda Rhoslyn ar rai o'r ymgyrchoedd hyn, hefyd i Lywodraeth Cymru am eu hymgyrch gyhoeddusrwydd hwy, ac i liaws o gyfranogwyr ar draws Cymru a thu hwnt - dros 1,180 ohonoch erbyn hyn! - sydd wedi cyfrannu eich lleisiau i'r Common Voice Cymraeg. Gallwch gyfrannu eich llais i gynorthwyo i adeiladu cronfa ddata o leisiau fydd pawb yn gallu'i defnyddio i greu rhagor o apiau arloesol ar gyfer dyfeisiau, y we a'r Gymraeg. Os hoffech chi gyfrannu eich llais, ewch i wefan Common Voice i ddechrau arni. https://voice.mozilla.org/cy

Cywirdeb

Yn ôl ein harbrofion, mae'r trawsgrifiwr yn llwyddo gyda WER (word error rate) o 24%. O gymharu, mae systemau tebyg ar gyfer Saesneg â WER llai na 10%. Mae’n fwy na thebyg y bydd canlyniadau’n amrywio rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Felly mae’r ap yn cynnwys awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio’n fwy llwyddiannus. Ond mae’r profiad o ddefnyddio’r rhaglen gyda brawddegau ar hap, a chael rhan helaeth o’r geiriau yn gywir yn arwyddocaol iawn. Yn ein barn ni mae’r ansawdd yn garreg filltir yn natblygiad adnabod lleferydd Cymraeg.

Cynnydd ar fersiynau blaenorol

v1.0.3

18 Jun 09:35
Compare
Choose a tag to compare

Trawsgrifiwr (v1.0.3)

Mae’r Trawsgrifiwr yn rhaglen Windows yn unig sydd yn trawsgrifio lleferydd Cymraeg i destun. Dydi’r Trawsgrifiwr ddim eto yn adnabod eich geiriau yn iawn bob amser. Mewn arbrofion syml mae’r fersiwn cychwynnol hwn yn camddeall tua 27% o eiriau mewn brawddeg.

Llwytho i lawr y gosodwr

I'w defnyddio cliciwch ar y botwm 'Record', siaradwch frawddeg yn glir am rhwng 5 i 10 eiliad ac yna gliciwch ar y botwm 'Stop'. Bydd y Trawsgrifiwr yn gweithio ar y sain gyda chylch glas yn troi cyn i'r testun o'r hyn a ddywedwyd ymddangos o fewn y blwch testun. Os oes angen, cywirwch y testun a/neu cliciwch ar y botwm 'Copïo' er mwyn gludo'r testun mewn i unrhyw feddalwedd arall ar eich peiriant Windows (e.e. Microsoft Word, LibreOffice neu flwch testun o fewn tudalen we)

Ar y funud mae'n broses araf, yn cymryd tua 3 neu 4 gwaith hirach na'r amser i lefaru'r frawddeg wreiddiol - byddwch yn amyneddgar!

Cefndir

Gwnaed y Trawsgrifiwr Cymraeg yn bosibl diolch i brojectau a chydweithrediad rhwng Mozilla, gwirfoddolwyr, ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ariannwyd rhan Prifysgol Bangor yn y fenter, gan gynnwys datblygu'r Trawsgrifiwr a'r Ap Macsen gan Lywodraeth Cymru.

Prif sail y Trawsgrifiwr yw DeepSpeech gan Mozilla. Mae DeepSpeech yn beiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a'i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Ewch i https://github.com/mozilla/deepspeech i ddysgu mwy am DeepSpeech. Mae modelau iaith Gymraeg DeepSpeech rydym wedi hyfforddi a'u cynnwys oddi fewn y fersiwn hwn o'r trawsgrifiwr ar gael i ddatblygwyr eraill o:

http://techiaith.cymru/deepspeech/arddweud/models/0.7.3/

I greu systemau adnabod lleferydd, mae angen nifer sylweddol iawn o recordiadau o leisiau gwahanol bobl. Rydym wedi gwneud hynny yn bennaf drwy gyfrwng Common Voice, sef llwyfan Mozilla i gasglu lleisiau pobl yn darllen yn uchel frawddegau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhoslyn Prys (meddal.com) a ymgymerodd â nifer o ymgyrchoedd torfoli ar sail wirfoddol, i'r Mentrau Iaith, Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a weithiodd gyda Rhoslyn ar rai o'r ymgyrchoedd hyn, hefyd i Lywodraeth Cymru am eu hymgyrch gyhoeddusrwydd hwy, ac i liaws o gyfranogwyr ar draws Cymru a thu hwnt - dros 1,180 ohonoch erbyn hyn! - sydd wedi cyfrannu eich lleisiau i'r Common Voice Cymraeg. Gallwch gyfrannu eich llais i gynorthwyo i adeiladu cronfa ddata o leisiau fydd pawb yn gallu'i defnyddio i greu rhagor o apiau arloesol ar gyfer dyfeisiau, y we a'r Gymraeg. Os hoffech chi gyfrannu eich llais, ewch i wefan Common Voice i ddechrau arni. https://voice.mozilla.org/cy

Cywirdeb

Yn ôl ein harbrofion, mae'r trawsgrifiwr yn llwyddo gyda WER (word error rate) o 27%. O gymharu, mae systemau tebyg ar gyfer Saesneg â WER llai na 10%. Mae’n fwy na thebyg y bydd canlyniadau’n amrywio rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Felly mae’r ap yn cynnwys awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio’n fwy llwyddiannus. Ond mae’r profiad o ddefnyddio’r rhaglen gyda brawddegau ar hap, a chael rhan helaeth o’r geiriau yn gywir yn arwyddocaol iawn. Yn ein barn ni mae’r ansawdd yn garreg filltir yn natblygiad adnabod lleferydd Cymraeg.

Cynnydd ar fersiynau blaenorol

  • yn defnyddio DeepSpeech 0.7.3
  • gwelliannau paramedrau model iaith sydd wedi gwella'r WER i 27% (o 33%)

v1.0.2

22 Apr 07:28
1587e74
Compare
Choose a tag to compare
v1.0.2 Pre-release
Pre-release

Trawsgrifiwr (v1.0.2)

Dyma'r fersiwn gyntaf o drawsgrifiwr ar gyfer y Gymraeg. I'w defnyddio cliciwch ar y botwm 'Record', siaradwch brawddeg yn glir am rhwng 5 i 10 eiliad ac yna gliciwch ar y botwm 'Stop'. Bydd y Trawsgrifiwr yn gweithio ar y sain gyda cylch glas yn troi cyn i'r testun o'r un a ddywedwyd ymddangos o fewn y blwch testun. Os oes angen, cywirwch y testun a/neu cliciwch ar y botwm 'Copïo' er mwyn gludo'r testun mewn i unrhyw feddalwedd arall ar eich peiriant Windows (e.e. Microsoft Word, LibreOffice neu flwch testun o fewn tudalen we)

Ar y funud mae'n broses araf, yn cymryd tua 3 neu 4 gwaith hirach na'r amser i lefaru'r frawddeg wreiddiol - byddwch yn amyneddgar!

Cefndir

Gwnaed y Trawsgrifiwr Cymraeg yn bosibl diolch i brojectau a chydweithrediad rhwng Mozilla, gwirfoddolwyr, ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ariannwyd rhan Prifysgol Bangor yn y fenter, gan gynnwys datblygu'r Trawsgrifiwr a'r Ap Macsen gan Lywodraeth Cymru.

Prif sail y Trawsgrifiwr yw DeepSpeech gan Mozilla. Mae DeepSpeech yn beiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a'i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Ewch i https://github.com/mozilla/deepspeech i ddysgu mwy am DeepSpeech. Mae modelau iaith Gymraeg DeepSpeech rydym wedi hyfforddi a'i chynnwys oddi fewn y fersiwn hwn o'r trawsgrifiwr ar gael i ddatblygwyr eraill o:

http://techiaith.cymru/deepspeech/arddweud/models/0.5.1/arddweud_200303.tar.gz

I greu systemau adnabod lleferydd, mae angen nifer sylweddol iawn o recordiadau o leisiau gwahanol bobl. Rydym wedi gwneud hynny yn bennaf drwy gyfrwng Common Voice, sef llwyfan Mozilla i gasglu lleisiau pobl yn darllen yn uchel frawddegau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhoslyn Prys (meddal.com) a ymgymerodd â nifer o ymgyrchoedd torfoli ar sail wirfoddol, i'r Mentrau Iaith, Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a weithiodd gyda Rhoslyn ar rai o'r ymgyrchoedd hyn, hefyd i Lywodraeth Cymru am eu hymgyrch gyhoeddusrwydd hwy, ac i liaws o gyfranogwyr ar draws Cymru a thu hwnt - dros 1,180 ohonoch erbyn hyn! - sydd wedi cyfrannu eich lleisiau i'r Common Voice Cymraeg. Gallwch gyfrannu eich llais i gynorthwyo i adeiladu cronfa ddata o leisiau fydd pawb yn gallu'i defnyddio i greu rhagor o apiau arloesol ar gyfer dyfeisiau, y we a'r Gymraeg. Os hoffech chi gyfrannu eich llais, ewch i wefan Common Voice i ddechrau arni. https://voice.mozilla.org/cy

Cywirdeb

Yn ôl ein harbrofion, mae'r trawsgrifiwr yn llwyddo gyda WER (word error rate) o 33%. O gymharu, mae systemau tebyg ar gyfer Saesneg â WER llai na 10%. Mae’n fwy na thebyg y bydd canlyniadau’n amrywio rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Felly mae’r ap yn cynnwys awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio’n fwy llwyddiannus. Ond mae’r profiad o ddefnyddio’r rhaglen gyda brawddegau ar hap, a chael rhan helaeth o’r geiriau yn gywir yn arwyddocaol iawn. Yn ein barn ni mae’r ansawdd yn garreg filltir yn natblygiad adnabod lleferydd Cymraeg.